Beth yw’r Sbardun Cymunedol?
Mae’r Sbardun Cymunedol yn broses sydd yn eich galluogi chi (neu rhywun sydd yn gweithredu ar eich rhan) i ofyn i ni fel Cyngor i adolygu ein hymatebion i gwynion yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r 3 meini prawf canlynol cael eu bodloni er mwyn i gais gael ei wneud:
-
Cysylltwch â ni os ydych wedi cwyno i’r Cyngor, Heddlu, Bwrdd Iechyd neu Ddarparwr Cofrestredig Tai Cymdeithasol, am o leiaf 3 achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol dros gyfnod o 6 mis.
-
Rhaid bod pob digwyddiad wedi ei adrodd oddi fewn mis o fod wedi cymryd lle, ac yr ydych yn credu nad yw eich cwyn wedi cael sylw priodol, neu nad does unrhyw weithred wedi cymryd lle.
-
Mae'r cais i ddefnyddio'r sbardun Cymunedol yn cael ei wneud o fewn 6 mis o'r adroddiad ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Ni ellir defnyddio’r sbardun i adrodd am droseddau cyffredinol, gan gynnwys troseddau casineb neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Ar ôl derbyn atgyfeiriad Sbardun Cymunedol, bydd adrannau perthnasol o fewn y Cyngor a sefydliadau partner megis Heddlu Gogledd Cymru yn dod at ei gilydd i drafod. Byddant yn edrych ar y materion yr ydych wedi’u hadrodd ar y cyd ac ar unrhyw gamau gweithredu a gymerwyd er mwyn pennu a oedd y camau hynny’n ddigonol yn seiliedig ar ddisgwyliadau ac amserlenni rhesymol. Gall y panel adolygu wneud argymhellion i gymryd camau pellach er mwyn ceisio datrys y broblem.
Sut mae gwneud cais?
Os ydych yn penderfynu gwneud cais am Sbardun Cymunedol bydd angen i chi roi’r manylion canlynol:
-
dyddiad pob cwyn a gyflwynoch;
-
manylion ble y gwnaethoch gwyno (enw, sefydliad a/neu gyfeirnod)
-
gwybodaeth ynglŷn â’r ymddygiad gwrthgymdeithasol
Cwblhewch y ffurflen gais:
Ffurflen gais - sbardun cymudedol
a'i dychwelyd i:
-
Sbardun Cymunedol, Swyddfa Diogelwch Cymunedol, Swyddfeydd y Cyngor, Stryd Y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch:
Mae Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yn nodi bod yn rhaid i ni gyhoeddi’r wybodaeth ganlynol ar gyfer y 12 mis blaenorol:
Nifer y ceisiadau am Adolygiadau Achos YGG a dderbyniwyd: 0
Nifer o weithiau na chyrhaeddwyd y trothwy ar gyfer adolygiad: 0
Nifer yr adolygiadau o achosion ymddygiad gwrthgymdeithasol a gynhaliwyd: 0
Nifer yr adolygiadau o achosion ymddygiad gwrthgymdeithasol a arweiniodd at wneud argymhellion: 0