Priodas / partneriaeth sifil

Rydym yn dymuno pob lwc i chi gyda'ch trefniadau ar achlysur eich priodas/partneriaeth sifil, ac yn dymuno diwrnod hapus a chofiadwy iawn i chi. 

Mae’n bosib cynnal priodas a phartneriaethau sifil mewn

Os ydych chi wedi penderfynu ar seremoni sifil, unwaith rydych chi’n gwybod lle rydych chi eisiau cynnal y briodas/partneriaeth sifil, bydd rhaid trefnu efo’r lleoliad yn gyntaf bod eich dyddiad/amser ar gael.

Os ydych chi wedi penderfynu priodi / partneriaeth sifil mewn Swyddfa Gofrestru cysylltwch gyda ni i weld os ydi’r ystafell ar gael ar 01766 771000. 
 
Os ydych chi’n priodi mewn Capel neu unrhyw Eglwys sydd ddim yn Eglwys yng Nghymru, bydd rhaid gwirio fod y Capel/Eglwys ar gael ar gyfer eich diwrnod a hefyd efallai y bydd angen Cofrestrydd.  Cysylltwch gyda’r capel / eglwys i wirio os oes angen Cofrestrydd.
 
Os ydych chi'n priodi mewn Eglwys yng Nghymru, fel arfer ni fyddwch angen cysylltu gyda’r Gwasanaeth Cofrestru o gwbl ond mae rhai eithriadau.  Gwiriwch gyda’r Eglwys yng Nghymru os ydych chi angen cysylltu gyda ni.
 
Os ydych chi’n priodi mewn unrhyw leoliad heblaw am yr Eglwys yng Nghymru, y cam nesaf fydd i drefnu apwyntiad ar gyfer rhoi eich rhybudd ffurfiol yn y Swyddfa Gofrestru.

Rhaid cyflwyno rhybudd ffurfiol er mwyn sicrhau eich bod yn rhydd ac yn gyfreithlon i briodi/ymrwymo mewn partneriaeth sifil. 

Fel arfer bydd rhaid cyflwyno eich rhybuddion yn eich swyddfa gofrestru lleol yn yr ardal rydych chi’n byw, ond mae rhai eithriadau:

  • Os ydi un ohonoch yn byw tu allan i Gymru/Lloegr, cysylltwch â ni am gyngor ynglŷn â lle a phryd i roi rhybudd.
  • Os ydi un ohonoch yn ddinesydd o wlad dramor, cysylltwch â ni am gyngor ynglŷn â lle a phryd i roi rhybudd.

Rhaid cyflwyno eich rhybuddion o leiaf 28 diwrnod* cyn dyddiad eich seremoni ac mae’n rhaid i chi wybod lle da chi yn priodi.  

*Nodwch! Gall hyn gynyddu i 70 diwrnod yn ddibynnol ar eich statws mewnfudo.
Oherwydd hyn, rydym yn eich cynghori i gyflwyno eich rhybuddion o leiaf 3 mis cyn eich seremoni. 

Bydd y rhybudd ffurfiol yn cael ei arddangos ar hysbysfwrdd cyhoeddus yn yr ardal rydych chi wedi rhoi eich rhybudd (os ydych chi'n rhoi rhybudd yng Ngwynedd, bydd y rhain yn cael eu harddangos yn Siop Gwynedd yng Nghaernarfon). Ar ddiwedd yr amser rhybudd, bydd y Gwasanaeth Cofrestru yna’n paratoi eich atodlen, sef  y ddogfen sy’n rhoi awdurdod cyfreithiol i chi briodi/ymrwymo mewn partneriaeth sifil.

Pan yn mynychu eich apwyntiad rhybudd, bydd angen i chi ddarparu dogfennaeth er mwyn profi eich: 
  • Enw
  • Oed
  • Cenedligrwydd
  • Cyfeiriad
  • Statws priodasol / partneriaeth sifil
  • Statws mewnfudo (os yn berthnasol) 

Enw, Oed a Chenedligrwydd

  • Unai pasbort dilys neu dystysgrif geni (efallai y byddwn angen dogfennau eraill i gyd-fynd efo’r dystysgrif geni, dylech gysylltu gyda’r gwasanaeth cofrestru er mwyn cael cyngor )  

Cyfeiriad:

  • Trwydded gyrru ddilys
  • Dogfen rhent neu dreth cyngor
  • Bil gwasanaeth cyhoeddus diweddar (wedi ei ddyddio o fewn y 3 mis diwethaf)
  • Cyfriflen banc (wedi ei ddyddio o fewn y mis diwethaf)
  • Os nad oes genych un o’r uchod, cysylltwch gyda ni am fwy o gyngor.

Statws priodasol / partneriaeth sifil (os yn berthnasol): 

  • Mewn achos ysgariad/gwahanu - tystysgrif archddyfarniad terfynol (decree absolute) neu dystysgrif diddymiad partneriaeth (dissolution of partnership)
  • Mewn achos profedigaeth - tystysgrif marwolaeth y cyn partner

Statws mewnfudo (os yn berthnasol)

  • Os ydi un ohonoch yn ddinesydd o wlad tramor, cysylltwch gyda ni er mwyn i chi gael cyngor ynglŷn â lle a phryd i roi rhybudd a pha ddogfennau i ddod gyda chi.


Rydym yn eich cynghori i gysylltu gyda’r Swyddfa Gofrestru i ofalu eich bod gyda'r dogfennau priodol cyn eich apwyntiad. Os byddwch yn mynychu’r apwyntiad gyda’r dogfennau anghywir, ni fydd y Cofrestrydd yn gallu parhau gyda’r apwyntiad fydd efallai yn golygu na fyddwch yn gallu priodi / ymrwymo mewn partneriaeth sifil ar eich dyddiad dewisol.

Gallwch gysylltu i drefnu Cofrestrydd ar gyfer eich priodas/partneriaeth sifil i fyny at 2 flynedd cyn dyddiad y seremoni. Fodd bynnag, bydd rhaid cyflwyno'r rhybudd ffurfiol o fewn 12 mis i ddyddiad y seremoni. Rydym yn eich cynghori i gysylltu mewn da bryd gan ein bod ni yn gyfyngedig ar y niferoedd y seremonïau y gallwn ni ei fynychu.

Wedi chi gyflwyno'r rhybudd ffurfiol bydd rhaid aros am o leiaf 28 / 70 diwrnod clir rhwng y dyddiad pan rydych yn cyflwyno'r rhybudd ffurfiol a'r diwrnod y cewch gynnal y seremoni.

I drefnu Cofrestrydd neu apwyntiad i roi rhybudd ffurfiol ffoniwch 01766 771000. 

Os ydych chi’n priodi / ymrwymo mewn partneriaeth sifil dramor, rhaid i chi wirio beth ydi rheolau’r wlad honno ynglŷn â phriodi/partneriaethau sifil.

Mae rhai gwledydd yn gofyn i chi fynychu eich Swyddfa Gofrestru leol er mwyn cael Tystysgrif Ddi-rwystr (Certificate of No Impediment), cysylltwch gyda ni i wneud apwyntiad ar 01766 771000,

Mewn amgylchiadau arbennig, er enghraifft os yw person yn ddifrifol wael, bydd yn bosib cyflwyno cais brys i briodi/uno mewn partneriaeth sifil. Mae'n bosib y bydd y ffioedd yn amrywio yn yr achosion hyn. 

Am ragor o wybodaeth neu i drefnu, cysylltwch â ni drwy ffonio 01766 771000. 

Mae ffi yn daladwy i Gyngor Gwynedd os ydych chi yn trefnu i Gofrestrydd(ion) fynychu eich seremoni. Bydd angen talu ffi (na all gael ei ad-dalu) er mwyn i ni gadw’r dyddiad a’r amser ar gyfer eich seremoni. Byddwn hefyd yn codi ffi i unrhyw un sydd eisiau trefnu eu priodas / partneriaeth sifil fwy na 12 mis o flaen llaw.  Bydd angen i chi dalu unrhyw falans o leiaf 3 mis cyn y seremoni.

Gweld rhestr ffioedd cyfredol 

Yn ogystal i’r uchod, mae ffi statudol ar gyfer cyflwyno rhybuddion ffurfiol. Gallwch dalu am y rhybuddion cyn neu yn ystod yr apwyntiad.  Mae ffi o £35 / £47 yr un (yn ddibynnol ar eich statws mewnfudo) yn daladwy i’r Cyngor.

Mae ffi o £11 am bob tystysgrif priodas / partneriaeth sifil.

Daeth ddeddf i ganiatáu seremonïau priodas cyplau o’r un rhyw i rym ddydd Sadwrn, 29 Mawrth, 2014

Prif ddarpariaethau’r ddeddf yw:

  • caniatáu i gyplau o’r un rhyw briodi trwy seremoni sifil;
  • caniatáu i gyplau o’r un rhyw briodi drwy seremoni grefyddol os yw’r sefydliad crefyddol wedi “optio i mewn” i gynnal seremonïau o’r fath ac os yw’r gweinidog yn gytûn;
  • caniatáu i bartneriaid sifil drosi eu partneriaeth i briodas os dymunent wneud hynny.

Am ragor o wybodaeth neu i drefnu, cysylltwch â ni drwy ffonio 01766 771000. 

Daeth ddeddf yn caniatáu seremonïau partneriaethau sifil cyplau o wahanol ryw i rym 2il o Ragfyr 2019. 


 

Mwy o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth ewch: 

Neu cysylltwch â ni drwy ffonio 01766 771000. 

Gwybodaeth am newid enw.