Prosiect Gofal Cartref
Rydan ni am wneud yn siŵr fod y gofal a’r gefnogaeth sydd ar gael i oedolion yn eu cartrefi yn eu helpu i fyw y bywyd gorau bosib o fewn eu cymuned.
Mae pob unigolyn yn unigryw. Rydan ni eisiau cefnogi pobl i allu gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw fel unigolion. I wneud hyn mae’n rhaid i staff:
- gael y cyfle i ddod i nabod a deall y bobl maen nhw’n gofalu amdanynt
- gael yr hawl i wneud be sy’n iawn
- ofyn am gefnogaeth o lefydd eraill pan fydd angen hynny.
Fel rhan o'r cynllun newydd, rydan ni am sicrhau:
- Bydd y gofal yn cael ei drefnu ar lefel gymunedol. Dim ond un neu ddau o ddarparwyr gofal fydd yn gweithio fesul ardal. Bydd gwasanaeth mewnol y Cyngor yn gweithio mewn rhai ardaloedd, a darpariaeth annibynnol mewn ardaloedd eraill.
- Bydd ansawdd y gofal a thelerau staff yn fwy cyson ar draws y sir. Bydd y gwaith o drefnu’r gofal a recriwtio staff yn dod yn haws, ac yn digwydd yn lleol fesul ardal.
- Bydd y gwasanaeth mae unigolion yn ei dderbyn heddiw’n parhau, a bydd pobl yn derbyn gofal cartref tra byddant angen y gefnogaeth.
Gwyliwch y fideo i ddeall mwy am y model gofal cartref newydd:
Mae prinder gofal mewn sawl ardal o’r Sir. ‘Rydan ni hefyd yn gwybod bod y gwasanaeth sy’n cael ei gynnig yn tueddu i fod yn gylch o dasgau penodol, i’w cyflawni ar amseroedd penodol o’r dydd - pethau fel help i godi, ymolchi, gwisgo a bwyta. Does dim llawer o le i wneud pethau gwahanol a allai wneud gwahaniaeth go iawn i ansawdd bywyd rhywun.
Ar ben hynny mae’r cwmnïau sy’n darparu’r gofal yn tueddu i weithio ar hyd a lled y sir, ac yn aml fe welwch sawl gweithiwr gofal o gwmnïau gwahanol ar yr un stryd!
Mae Cyngor Gwynedd yn cydweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar y newidiadau yma, a byddwn yn comisiynu’r gofal fesul ardal ar y cyd. Mae’r holl staff iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gweithio o fewn yr ardaloedd yma yn rhan o’r trefniadau newydd.
Bydd y prosiect yma’n gwella’r ffordd mae pobl hyn, oedolion sydd ag anableddau neu sy’n dioddef cyflyrau iechyd meddwl yn derbyn cymorth i fyw gartref yng Ngwynedd.
Mae’r model newydd wedi ei dreialu mewn ardaloedd ar hyd a lled Gwynedd dros y 4 blynedd ddiwethaf gan ganolbwyntio ar agweddau penodol o’r model:
- Ffiniau ardal: Gweithio o fewn ardal lai gyda ffiniau daearyddol penodol.
- Strwythur Tîm Adnoddau Cymunedol: Darparwyr gofal yn dod yn aelodau actif o’r Tîm Adnoddau Cymunedol yn lleol, rhannu gwybodaeth a meithrin parch.
- Contract Bloc: Darparwyr yn cael eu comisiynu ar sail bloc penodol o oriau mewn ardal benodol er mwyn hwyluso cynllunio eu busnes - yn hytrach na thalu fesul pecyn
- Shifftiau bloc: Cynllunio 'rota' staff ar sail shifftiau bloc - bore neu’r hwyr. Staff yn cael eu talu am amser trafeilio ac amser cyswllt.
- Timau bach: Timau bach o staff yn hunan reoli eu hamser ar sail anghenion yr unigolyn, y gymuned a’r tîm. Mwy o hyblygrwydd o ran ymateb i ddymuniadau, a chysondeb o ran gofalwyr.
- Symud oddi wrth dasgau ac amser penodol: Gwaith ar sail be fyddai’n gwella bywyd yr unigolyn, yn hytrach na gwneud tasgau penodol. Dynodi nifer o oriau'r wythnos, heb fanylu ar nifer ac amseriad galwadau.
Bydd yr adroddiad terfynol sydd yn crynhoi profiadau’r ardaloedd peilot ar gael yma yn fuan.
Mae angen cynnal proses dendro i benderfynu pa ddarparwyr fydd yn derbyn contract ymhob is-ardal. Agorwyd y broses dendro ar 8 Ebrill 2022. Dyma’r amserlen fanwl:
Cam
|
Dyddiad
|
1
|
Agor y broses dendro
|
8 Ebrill 2022
|
2
|
Cyflwyno tendr
|
Mai 2022
|
3
|
Cyfweliadau darparwyr
|
Diwedd Mai 2022
|
4
|
Llythyrau, adborth a chyfnod ystyried
|
Mehefin 2022
|
5
|
Gwobrwyo contractau newydd
|
Gorffennaf 2022
|
6
|
Cyfnod trosglwyddo darparwyr
|
Gorffennaf ymlaen - am o leiaf 6 mis
|
7
|
Sefydlu’r model gweithredu newydd
|
Awst ymlaen
|
Bydd unigolion sy’n derbyn gwasanaeth gofal cartref a’u teuluoedd yn derbyn gwybodaeth yn rheolaidd am ein cynlluniau. Os bydd y broses dendro’n golygu unrhyw newid iddynt o ran natur eu gofalwyr, byddwn yn rhannu gwybodaeth a thrafod gyda nhw mewn da bryd.
Bydd pob cefnogaeth yn cael ei ddarparu drwy’r timau iechyd a gofal cymdeithasol lleol i unrhyw un fydd yn cael ei effeithio gan y newidiadau yma.
Rydym yn gwerthfawrogi’r holl staff iechyd a gofal sy'n gweithio yn y sir, ac mae eu swyddi’n hanfodol ac yn ddiogel. Bydd pobl sy’n derbyn gofal cartref heddiw’n derbyn gofal cartref tra byddwch angen y gefnogaeth.
Mae gennym ddyletswydd i asesu effaith unrhyw newid i bolisi, gwasanaeth neu gynllun ar bobl, o ran cydraddoldeb, yr iaith Gymraeg a’i ddefnydd, ac ar anfantais economaidd-gymdeithasol.
Gweld copi o Asesiad Effaith