Cinio ysgol / clwb brecwast
Clwb brecwast
Mae rhai o ysgolion cynradd y sir yn cynnal clybiau brecwast. Cysylltwch â'ch ysgol i gael gwybod mwy am eich ysgol chi.
Rhaid talu £1 y plentyn am yr elfen gofal plant cyn y clwb brecwast. Mae disgownt ar gyfer teuluoedd o 3 neu fwy o blant cynradd sy’n defnyddio’r clwb gofal cyn-ysgol. £2 y dydd yw'r mwyafrif bydd rhiant yn ei dalu.
Rhaid archebu lle yn y clwb trwy eich cyfrif Cyngor Gwynedd ar-lein.
Cinio ysgol am ddim
Ysgolion cynradd: Mae cinio ysgol ar gael am ddim i bob plentyn ysgol gynradd. Os ydych yn derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau cymhwyso, dylech dal i gofrestru ar gyfer cinio ysgol am ddim oherwydd efallai y bydd gennych hawl i grantiau fel gwisg ysgol a chitiau Addysg Gorfforol. Mwy o wybodaeth
Ysgolion uwchradd: Mae cinio ysgol am ddim hefyd ar gael ar gyfer rhai disgyblion uwchradd o deuluoedd incwm isel. Mwy o wybodaeth.
Beth sydd i ginio?
Mae holl ysgolion Gwynedd yn rhan o’r cynllun ysgolion iach. Mae gwybodaeth ar gael ar wefan Ysgolion Iach Gwynedd.
Ysgolion uwchradd
Mae holl ysgolion uwchradd y sir yn cynnig amrywiaeth o fwydydd ffres oer a phoeth pob dydd. Bydd y prisiau yn amrywio - cysylltwch â'r ysgol am fwy o wybodaeth.
Ysgolion cynradd
Mae diod o ddŵr ar gael i bawb amser cinio. Mae ffrwythau ffres ar gael bob dydd fel dewis yn lle pwdin. Dylai bara (heb fenyn na margarin) fod ar gael drwy gydol amser cinio. Bydd tatws heb olew yn cael eu cynnig fel dewis yn lle sglodion a thatws rhost. Rydym yn paratoi’r bwyd o’r cynhwysion craidd ac nid ydym yn defnyddio bwydydd y gwyddys eu bod yn cynnwys cynhwysion a addaswyd yn enetig.
| Dydd Llun | Dydd Mawrth | Dydd Mercher | Dydd Iau | Dydd Gwener |
Wythnos 1 |
Bysedd pysgod
Bysedd di bysgod (LL)
Ffa pob
Tatws stwnsh neu taten pob
Flapjac datys
Llefrith
Darnau ffrwyth ffresh
|
Korma cyw iar
Korma llysieuol (ll)
Pys, corn melyn & reis
Bisged ceirch
Llefrith
Darnau ffrwyth ffres |
Cig eidion wedi’i rostio
Ffiled quorn (ll)
Pwdin efrog
Grefi, moron a rwdan
Tatws rôst neu stwnsh
Jeli ffrwythau a hufen iâ
Darnau ffrwyth ffres
|
Peli cig porc
Selsig llysieuol (ll)
Pasta
Broccoli a corn melyn
Teisen oren daneg
Cwstard
Darnau ffrwyth ffres
|
Pitsa
Bysedd ciwcymbr
Cholslo
Sglodion neu taten bob
Iogwrt
Darnau ffrwyth
Darnau ffrwyth ffres
|
Wythnos 2 |
Selsig mewn grefi nionyn
Selsig llysieuol (ll)
Pys gardd
Tatws stwnsh neu Taten pob
Bisged berffro lemwn
Llefrith
1/2 Banana
Darnau ffrwyth ffres
|
Bolognese cig eidion/lasagne
Bolognese quorn (ll)
pasta
Corn melyn a pys
Bar garlleg
Cacen gaws
Coulis ffrwythau
Darnau ffrwyth ffres |
Porc rhost & grefi
Ffiled quorn (ll)
Brocoli & moron
Tatws rôst neu stwnsh
Saws afal
Salad ffrwythau
Jeli
Darnau ffrwyth ffres
|
Lobscows cig eidion
Lobscows llysieuol (ll)
Rôl bara
Myffin ffrwythau
Llefrith
Darnau ffrwyth ffres
|
Ffiled eog briwsion bara
Nygets llysiau (ll)
Ffa pob
Sglodion neu taten pob
Hufen iâ
Gyda eirin gwlanog
Darnau ffrwyth ffres
|
Wythnos 3 |
Pysgodyn seren môr /ffiled eog briwsion bara
Nygets llysiau (ll)
Pys gardd
Tatws wedge neu
Taten bob
Sbwng siocled
Cwstard siocled
Darnau ffrwyth ffres
|
Pastai’r bwthyn
Briwgig quorn (ll)
Tatws hufen
Brocoli
Grefi
Byn mafon gyda llefrith
Darnau ffrwyth ffres |
Twrci neu cig oen wedi’i rostio
Ffiled quorn (ll)
Stwffin, saws mint
Bresych, moron
Tatws wedi berwi
Grefi
Rôl artic
Eirin gwlanog
Darnau ffrwyth ffres |
Cyri cyw iâr
Cyri llysieuol (ll)
Bara naan
Corn melyn
Reis
Sgwariau crispie
Llefrith
Darnau ffrwyth ffres
|
Selsig mewn rôl bara
Selsig llysieuol (ll)
Salad
Sglodion neu taten pob
Iogwrt
Darnau ffrwyth
Darnau ffrwyth ffres
|
Llefrith
Mae traean o beint o lefrith yn cael ei roi am ddim bob dydd i:
- ddisgyblion o dan 5 oed
- disgyblion Cyfnod Allweddol 1 (Menter Cynulliad Cenedlaethol Cymru)
- ddisgyblion ysgolion arbennig
- unrhyw ddisgybl mewn ysgol gynradd sydd angen llefrith ar sail meddygol pan fo tystysgrif wedi’i chyflwyno gan y Swyddog Meddygol Ysgolion.
- Mae disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn gallu prynu traean o beint o lefrith am 10c.
Disgyblion sy’n dod â'u brechdanau eu hunain
Mae cwpan, plât a dŵr yn cael eu darparu ar gyfer plant sy'n dewis dod â'u bwyd eu hunain.
Cysylltu â ni
Rydym wastad yn croesawu eich adborth. Gyrrwch eich sylwadau neu argymhellion ar gyfer gwella i:
Os ydych am gyflwyno cwyn ffurfiol gallwch wneud hynny drwy ddilyn trefn cwynion ffurfiol Cyngor Gwynedd