Cinio am ddim

Mae cinio am ddim ar gael i blant ysgolion cynradd ac uwchradd os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn un o’r budd-daliadau hyn:

  • Lwfans Cymorth a Chyflogaeth (sail incwm)
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith (ar sail incwm)
  • Credyd Treth Plentyn (gydag incwm trethadwy blynyddol o ddim mwy na £16,190) 
  • Credyd Pensiwn (Gwarant)
  • Cymorth o dan Deddf Lloches a Mewnfudo 1999 (Dim Mynediad i Arian Cyhoeddus)
  • Credyd Cynhwysol ar yr amod bod gan yr aelwyd incwm a enillir net blynyddol o ddim mwy na £7,400

Fydd teuluoedd sy'n derbyn Credyd Treth Gwaith ddim yn cael cinio am ddim, hyd yn oed os yw eu hincwm trethadwy blynyddol o dan £16,190. 


Cinio am Ddim Gwarchodaeth Trosiannol – Newid i’r rheolau

  • Mae polisi Gwarchodaeth Trosiannol Llywodraeth Cymru ar gyfer hawl Cinio am Ddim wedi dod i derfyn ers 31 Rhagfyr 2023.
  • Mae’n bwysig nodi, er fod y polisi wedi dod i ben, mae’r gwarchodaeth yn parhau, a felly, ni ddylai fod yna unrhyw golli gwarchodaeth unionyrchol ar gyfer pob plentyn.
  • Rheolau Newydd – fe fydd Gwarchodaeth Trosiannol (GT) yn dod i ben pan mae’r plentyn yn dod i ddiwedd eu cyfnod addysg, e.e. symud o addysg cynradd i uwchradd. 

Cynradd i Uwchradd

  • Os yw plentyn mewn Addysg Gynradd ac yn derbyn Cinio am Ddim (CADd) ar sail amgylchiadau ariannol y teulu cyn 31 Rhagfyr 2023 – fe fyddent wedi cael eu hasesu i fod yn derbyn Gwarchodaeth Trosiannol, felly’n parhau i dderbyn CADd hyd nes maent yn symud i Addysg Uwchradd.
  • Pan mae’r plentyn yn symud i Addysg Uwchradd, bydd angen gwneud gwiriad newydd i weld os ydi’r plentyn yn parhau’n deilwng ar sail amgylchiadau ariannol y teulu neu’n deilwng ar sail GT yn unig.
  • Os ydynt yn parhau’n deilwng ar sail amgylchiadau ariannol y teulu, yna bydd CADd yn parhau ond ni fydd y plentyn yn cael ei adnabod fel plentyn gyda GT.
  • Os nad yw’r plentyn yn deilwng ar sail amgylchiadau ariannol y teulu, yna daw yr hawl i ben ar y pwynt yma.

 

Gwneud cais

Os ydych yn derbyn Budd-dal Tai neu ostyngiad Treth Cyngor gan Gyngor Gwynedd, nid oes rhaid cwblhau ffurflen gais am ginio ysgol am ddim, byddwn yn asesu eich hawl yn awtomatig.

Os nad ydych yn derbyn cymorth ariannol ac yn meddwl fod gan eich teulu hawl i ginio am ddim, cwblhewch y ffurflen isod. 

Ffurflen gais cinio ysgol am ddim 

 

  • Os ydych yn cael Budd-dal Tai neu ostyngiad Treth Cyngor gan Gyngor Gwynedd, nid oes angen i chi lenwi'r ffurflen, byddwn yn adolygu eich hawl yn awtomatig.
  • Os nad ydych yn derbyn Budd-dal Tai neu ostyngiad Treth Cyngor gan Gyngor Gwynedd bydd angen gwneud cais bob blwyddyn. Bydd y swyddfa Budd-daliadau yn gyrru ffurflen atoch chi pan fydd angen i chi wneud cais newydd. Dim ond un ffurflen sydd angen ei llenwi ar gyfer eich plant i gyd, hyd yn oed os ydyn nhw mewn ysgolion gwahanol

Mae'n rhaid i’ch plentyn fynd i ysgol yng Ngwynedd i gael cinio ysgol am ddim gan Gyngor Gwynedd. Os yw eich plentyn yn mynd i ysgol mewn sir arall, bydd rhaid i chi wneud cais am ginio ysgol am ddim gan y Cyngor hwnnw.

Os yw eich plentyn / plant yn symud ysgol yn ystod blwyddyn ysgol, bydd angen cysylltu â swyddfa Budd-daliadau'r Cyngor er mwyn iddyn nhw ddweud wrth yr ysgol newydd fod eich plentyn / plant yn cael cinio ysgol am ddim.     

Mae'n rhaid i chi ddweud wrth swyddfa Budd-daliadau'r Cyngor am unrhyw newidiadau yn eich sefyllfa ariannol / teuluol. Os nad ydych yn gwneud hyn, bydd Cyngor Gwynedd yn gallu gofyn i chi dalu am brydau bwyd am ddim mae eich plant wedi dderbyn yn barod.

Gallwch ddweud wrthym am newid amgylchiadau ar-lein.

 

Os yw eich plentyn yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim ar hyn o bryd, efallai y bydd gennych hefyd hawl i gymorth ychwanegol drwy'r Grant Hanfodion Ysgol.


Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd

Bydd Prydau Ysgol am Ddim yn cael eu cyflwyno i holl blant ysgolion cynradd Cymru dros y tair blynedd nesaf. 

Os oes gennych blentyn yn dechrau mewn Dosbarth Derbyn neu Flwyddyn 1, a ddim am i’ch plentyn dderbyn pryd o fwyd yn yr ysgol amser cinio, bydd angen i chi  hysbysu’r ysgol mor fuan â phosib fel bod ein ceginau ysgol yn gwybod faint o brydau i’w paratoi.  

Mae’r polisi Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd yn rhan o Gytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, a fydd yn gweld prydau ysgol am ddim yn cael eu hymestyn i bob dysgwr cynradd dros y tair blynedd nesaf.

 

Cysylltu â’r swyddfa Budd-daliadau