Grant Hanfodion Ysgol

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu arian ar gyfer Cynllun Grant Hanfodion Ysgol.

Pwrpas y Cynllun yw i alluogi’r Cyngor i ddarparu cymorth grant i deuluoedd sydd ar incwm isel ar gyfer prynu :

 

  • Gwisg Ysgol yn cynnwys cotiau ac esgidiau;
  • Dillad Ymarfer Corff yn cynnwys esgidiau;
  • Gwisg ar gyfer gweithgaredd cyfoethogi, yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i, scowts; geidiaid; cadlanciaid; karate ac ati; chwaraeon; celfyddydau perfformio neu ddawns;
  • Offer e.e. bagiau ysgol neu ddeunyddiau;
  • Offer arbennigol lle mae gweithgareddau cwricwlwm newydd yn dechrau megis dylunio a thechnoleg; a
  • Offer ar gyfer teithiau tu allan i oriau ysgol megis dysgu awyr agored e.e. dillad dal dŵr.

Nid yw’n restr faith.

Mae’r Arian yn £125 ar gyfer pob disgybl heblaw ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7 lle mae’r ffigwr yn £245.00 (BLWYDDYN YSGOL MEDI 2023 YN UNIG), ar gael i ddisgyblion sy’n gymwys i dderbyn Cinio Ysgol am Ddim (ond nid y rhai sy’n cael eu Gwarchod Dros dro) neu sy’n derbyn gofal ac yn mynychu

 

  • mynd i ddosbarth Derbyn mewn ysgol gynradd sy’n cael ei chynnal ym mis Medi 2023;
  • mynd i flwyddyn 1 mewn ysgol gynradd sy'n cael ei chynnal ym mis Medi 2023;
  • mynd i flwyddyn 2 mewn ysgol gynradd sy'n cael ei chynnal ym mis Medi 2023;
  • mynd i flwyddyn 3 mewn ysgol gynradd sy'n cael ei chynnal ym mis Medi 2023;
  • mynd i flwyddyn 4 mewn ysgol gynradd sy'n cael ei chynnal ym mis Medi 2023;
  • mynd i flwyddyn 5 mewn ysgol gynradd sy'n cael ei chynnal ym mis Medi 2023;
  • mynd i flwyddyn 6 mewn ysgol gynradd sy'n cael ei chynnal ym mis Medi 2023;
  • mynd i flwyddyn 7 mewn ysgol uwchradd sy’n cael ei chynnal ym mis Medi 2023;
  • mynd i flwyddyn 8 mewn ysgol uwchradd sy'n cael ei chynnal ym mis Medi 2023;
  • mynd i flwyddyn 9 mewn ysgol uwchradd sy'n cael ei chynnal ym mis Medi 2023;
  • mynd i flwyddyn 10 mewn ysgol uwchradd sy'n cael ei chynnal ym mis Medi 2023;
  • mynd i flwyddyn 11 mewn ysgol uwchradd sy'n cael ei chynnal ym mis Medi 2023;
  • neu mynd i ysgol arbennig, canolfan adnoddau anghenion arbennig neu unedau cyfeirio disgyblion ac sy'n 4, 5, 7, 9, 11, 12, 13, 14 neu 15 oed ym mis Medi 2023.

 

Meini Prawf ar gyfer y grant :

Os ydych yn derbyn un o’r budd-daliadau canlynol yna fe allwch fod gyda hawl i dderbyn Grant:

 

  • Lwfans Cymorth a Chyflogaeth (sail incwm)
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith (ar sail incwm)
  • Credyd Treth Plentyn (gydag incwm trethadwy blynyddol ddim mwy na £16,190)
  • Credyd Pensiwn (Gwarant)
  • Cymorth o dan Deddf Lloches a Mewnfudo 1999
  • Credyd Cynhwysol ar yr amod bod gan yr aelwyd incwm a enillir net blynyddol o ddim mwy na £7,400

 

Nid yw teuluoedd sy’n derbyn Credyd Treth Gwaith yn teilyngu hyd yn oed os yw eu hincwm trethadwy blynyddol o dan £16,190.

 

Sut ydw i’n gwneud cais?

Os ydych yn derbyn Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Cyngor gan Gyngor Gwynedd, ni fydd raid i chwi gwblhau ffurflen gais am grantiau, byddwn yn asesu eich hawl yn awtomatig. Os nad ydych yn derbyn Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Cyngor gan Gyngor Gwynedd, ac o’r farn fod gan eich teulu hawl i gael grant, gallwch lawrlwytho'r ffurflen gais isod.

 

Ffurflen Gais - Grant Hanfodion Ysgol

Os ydych yn derbyn Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Cyngor gan Gyngor Gwynedd, ni fydd angen i chi gwblhau ffurflen ar adegau penodol, byddwn yn adolygu eich hawl yn awtomatig.

Os nad ydych yn derbyn Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Cyngor gan Gyngor Gwynedd bydd angen gwneud cais bob blwyddyn. Fe fydd y swyddfa Budd-daliadau yn anfon ffurflen i chi pan fydd angen i chi wneud cais newydd. Dim ond un ffurflen sydd angen ei llenwi ar gyfer eich plant i gyd, hyd yn oed os ydynt mewn ysgolion gwahanol.

Mae'n rhaid i’ch plentyn fynychu ysgol yng Ngwynedd i hawlio grant gan Gyngor Gwynedd. Os yw eich plentyn yn mynychu ysgol mewn sir arall bydd yn rhaid i chi wneud cais am grant gan yr awdurdod hwnnw.

Eich cyfrifoldeb chi yw dweud wrth swyddfa Budd-daliadau'r Cyngor am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau cyllidol / teuluol. Os nad ydych yn gwneud hyn bydd Cyngor Gwynedd yn gallu gofyn am yr arian yn ôl.

Gallwch ddweud wrthym am newid amgylchiadau ar-lein.

 


Cysylltu â’r swyddfa budd-daliadau

Ffôn: 01286 682689

E-bost: budd-daliadau@gwynedd.llyw.cymru