Ysgol y Faenol

Fel sy’n hysbys, yn unol â phenderfyniad Corff Llywodraethol Ysgol y Faenol ym mis Medi 2021, gohiriwyd dyddiad gweithredu’r cynnig i gynyddu capasiti Ysgol y Faenol i 315 o ddysgwyr o 1 Medi 2021 i 25 Ebrill 2022. (Mae copi o’r llythyr a rannwyd hefo rhan-ddeiliaid ym mis Medi 2021 i’w weld isod).

 

Yn ddiweddarach, yn eu cyfarfod ar 15 Mawrth 2022, penderfynodd Corff Llywodraethol Ysgol y Faenol “ohirio gweithredu’r cynnig i gynyddu capasiti yr ysgol i 315 o ddisgyblion, o 25 Ebrill 2022 i 23 Rhagfyr 2022, am y rheswm y byddai’n afresymol o anodd gweithredu y cynnig ar y dyddiad gweithredu (25 Ebrill 2022) oherwydd llithriad yn yr amserlen waith adeiladu, a gan fod trafodaethau ynglŷn a throsglwyddiadau tir yr ysgol yn parhau.”

 

Ar ran Corff Llywodraethol Ysgol y Faenol, mae copi electroneg o lythyr sy’n nodi’r rhesymau dros ohirio’r dyddiad gweithredu i’w weld isod:

Llythyr Rhan-ddeiliaid – Mawrth 2022

Llythyr Rhan-ddeiliaid – Medi 2021

Ar ddydd Iau, 24 Ionawr, 2019, cymeradwyodd Corff Llywodraethu Ysgol y Faenol y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol y Faenol i 315 o ddisgyblion yn weithredol o 1 Ionawr 2021. Cynhaliwyd cyfnod gwrthwynebu statudol rhwng 23 Tachwedd 2018 a 21 Rhagfyr 2018.

Ar ddydd Mawrth 19 Tachwedd 2019, penderfynodd y Corff Llywodraethu i ohirio dyddiad gweithredu’r cynnig i gynyddu capasiti Ysgol y Faenol i 315 o ddisgyblion o 1 Ionawr 2021 i 1 Medi 2021

Gan na dderbyniwyd cynigion dilys yn y broses dendro wreiddiol, bydd angen ail-dendro'r cytundeb adeiladu a fyddai’n achosi oediad yn y dyddiad i ddechrau’r gwaith adeiladu. Golyga hyn y byddai’n afresymol o anodd i weithredu’r cynnig ar y dyddiad gwreiddiol. 

Adroddiad Gwrthwynebu

Yn dilyn cyhoeddi rhybudd statudol ar y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol y Faenol, cynhaliwyd cyfnod gwrthwynebu rhwng 23 Tachwedd 2018 a 21 Rhagfyr 2018. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad yn ystod y cyfnod gwrthwynebu. 

Bydd Corff Llywodraethol Ysgol y Faenol yn cyfarfod ar y 24 Ionawr 2019 i drafod y camau nesaf.

Gweler isod gopi o adroddiad yn dilyn cyfnod gwrthwynebu:

Adroddiad Gwrthwynebu

 

Cyfnod gwrthwynebu

Yn dilyn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol yn ymwneud a chynyddu capasiti Ysgol y Faenol, adroddwyd i Gorff Llywodraethol Ysgol y Faenol ar y 20 Tachwedd, 2018.

 Penderfynodd y Corff Llywodraethol :

  1. Cymeradwyo'r cynnig gynyddu capasiti Ysgol y Faenol o 186 i 315
  1. Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig uchod yn unol â gofynion Adran 48 o ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

Yn unol â’r penderfyniadau uchod, cyhoeddwyd rhybudd statudol ar y 23 Tachwedd 2018.

Gall unrhyw un wrthwynebu'r cynnig o fewn cyfnod o 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi'r rhybudd hwn, hynny yw erbyn 21 Rhagfyr 2018.

Dylid anfon gwrthwynebiadau ysgrifenedig at sylw Cadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol y Faenol drwy law y Swyddfa Moderneiddio Addysg: 

Cyngor Gwynedd, 
Swyddfa’r Cyngor, 
Caernarfon, 
Gwynedd, 
LL55 1SH

neu drwy anfon neges e-bost at moderneiddioaddysg@gwynedd.llyw.cymru

Cynhaliwyd ymgynghoriad statudol ar gynyddu capasiti Ysgol y Faenol rhwng 18 Medi – 30 Hydref 2018.

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 30 Hydref, 2018, a bydd sylwadau a dderbyniwyd yn cael ei cyflwyno ger bron Corff Llywodraethol Ysgol Y Faenol ar 20 Tachwedd 2018.

Gweler isod gopi o’r adroddiad a’r dogfennau perthnasol

Dyluniadau amlinellol – fel arddangoswyd yn y sesiynau galw heibio

Mewn cyfarfod ar y 3ydd o Orffennaf, 2018 penderfynodd Corff Llywodraethol Ysgol y Faenol i ymgymryd â phroses ymgynghori statudol ar gynnig i gynyddu capasiti Ysgol y Faenol, yn unol â gofynion Adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013

Bydd yr ymgynghoriad statudol yn cael ei gynnal rhwng 18 Medi a 30 Hydref, 2018.

Ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i Gorff Llywodraethol Ysgol y Faenol er mwyn gwneud penderfyniad ar y camau nesaf. Mi fydd yr adroddiad yn cynnwys ymatebion i’r holl sylwadau dderbynnir.

Mae’r ddogfen ymgynghori statudol, pecyn gwybodaeth cefndirol a dogfennau perthnasol eraill ar gael isod:

Os ydych angen copïau caled o unrhyw ddogfen mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ffonio (01286) 679247 neu e-bostio moderneiddioaddysg@gwynedd.llyw.cymru.

 

Yn dilyn buddsoddiad sylweddol mae Cyngor Gwynedd wedi ei sicrhau i foderneiddio darpariaeth addysg gynradd yn ninas Bangor. Mae cyfanswm o £12.7 miliwn wedi ei adnabod ar gyfer y gwaith, sy’n cynnwys cyfraniad o £6.3 miliwn gan Lywodraeth Cymru i alluogi’r Cyngor i adolygu a gwella’r ddarpariaeth addysg.  Mae potensial i ddefnyddio rhan o’r gyllideb i wneud gwaith adnewyddu a chynyddu capsiti Ysgol y Faenol.

Fel rhan o’r broses, mae Panel Adolygu Dalgylch Bangor (PAD), sy’n cynnwys cynrychiolwyr o ysgolion y dalgylch, Cynghorwyr Dinas, Cynghorwyr Sir ac eraill, wedi bod yn rhan o’r trafodaethau ac wedi ystyried y cyfleoedd a’r opsiynau sydd ar gael. Yn dilyn ystyriaeth lawn o’r opsiynau posib, cynnigir cynyddu capasiti Ysgol y Faenol i 315 i ymateb i‘r gofyn am lefydd yn Nalgylch Bangor.

 Mewn cyfarfod ar y 3ydd o Orffennaf, 2018 penderfynodd Corff Llywodraethol Ysgol y Faenol i ymgymryd â phroses ymgynghori statudol ar gynnig i gynyddu capasiti Ysgol y Faenol, yn unol â gofynion Adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013.  Fel rhan o’r ymgynghoriad, byddai Corff Llywodraethol Ysgol y Faenol yn hoffi i chi gyflwyno eich barn fel y gellir ei hystyried cyn gwneud penderfyniad a bydd cyfle i bawb sydd â diddordeb yn y newidiadau posib ddatgan eu barn.

Bydd cyfnod o ymgynghori statudol yn cychwyn w/c Medi 17, 2018.

 

Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch ModerneiddioAddysg@gwynedd.llyw.cymru