Cais mynediad i ysgol Uwchradd

Mae angen i disgyblion Blwyddyn 6 mewn ysgolion cynradd wneud cais er mwyn gallu mynychu Blwyddyn 7 mewn ysgol uwchradd yng Ngwynedd. 

Rhaid gwneud cais cyn 22 Rhagfyr 2023 (ar gyfer Medi 2024). 


Cyn llenwi’r ffurflen gais:

  • dylech ddarllen y Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni / Polisi mynediad ysgolion Gwynedd
  • cofiwch nad yw gwneud cais yn gwarantu mynediad i unrhyw ysgol.
  • cofiwch nad oes angen i ddisgyblion sy’n Blwyddyn 6 Ysgol Godre’r Berwyn nac ym Mlwyddyn 6 Ysgol Bro Idris wneud cais os am fynychu Blwyddyn 7 yn yr un ysgol. Bydd rhaid gwneud cais os am symud i flwyddyn 7 mewn ysgol wahanol.

Gwneud cais mynediad i Ysgol Uwchradd

 (Rhaid creu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)


Beth fydd yn digwydd nesaf?

Byddwch yn cael eich hysbysu am ganlyniad y cais ar 1 Mawrth.

 

Gweld neu ddiweddaru cais

I weld neu ddiweddaru cais rydych wedi ei gyflwyno, ewch i’ch cyfrif Cyngor Gwynedd ar-lein a chlicio ar ‘Fy ngheisiadau’. Mynd i Fy Nghyfrif

 

Ceisiadau hwyr

Mae angen gwneud y cais am le yn mewn ysgol Uwchradd cyn 22 Rhagfyr 2023 (ar gyfer Medi 2024). Mae'n bosib gwneud cais ar ôl y dyddiad yma, ond bydd yn cael ei ystyried fel cais hwyr ac mae'n bosib na fyddwch yn eich hysbysu am y canlyniad ar 1 Mawrth. 


Mwy o wybodaeth

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yn y Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni / Polisi mynediad ysgolion Gwynedd 

Neu cysylltwch â ni: 

  • mynediadysgol@gwynedd.llyw.cymru 
  • 01286 679904.

Ni all yr Awdurdod drafod argaeledd llefydd mewn unrhyw ysgol dros y ffôn.