Sut ydw i'n pleidleisio mewn etholiad?

Byddwch yn derbyn cerdyn pleidleisio drwy'r post yn ystod yr wythnosau cyn yr etholiad. Bydd y manylion pleidleisio i gyd ar y cerdyn, gan gynnwys lleoliad eich gorsaf bleidleisio.

Mae’n helpu’r clerc pleidleisio os ewch â'r cerdyn gyda chi i'r orsaf bleidleisio ar y diwrnod ond gallwch bleidleisio hebddo.

Os nad ydych chi wedi derbyn eich cerdyn pleidleisio cyn yr etholiad gallwch gysylltu â ni drwy ffonio 01766 771000.


Lleoliad eich gorsaf bleidleisio

Bydd lleoliad eich gorsaf bleidleisio wedi ei nodi ar eich cerdyn pleidleisio. Gallwch hefyd ddod o hyd i'r lleoliad drwy roi eich cod post yn y blwch: 

  

 

 

Oriau agor pob gorsaf bleidleisio yn ystod etholiad yw 07:00 – 22:00. 

Gall y clerc pleidleisio egluro hyn i chi ar y diwrnod.

Os ydych chi wedi dewis derbyn pleidlais bost bydd gwybodaeth yn cael ei ddarparu yn y pecyn gaiff ei anfon atoch. 

Rydym yn ceisio sicrhau bod ein gorsafoedd pleidleisio’n hygyrch ond nid yw hyn yn bosib bob amser.

Mae’r staff yn y gorsafoedd pleidleisio yn rhoi adborth i ni ynghylch hygyrchedd ar ôl pob etholiad. Mae'r wybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni adolygu gorsafoedd pleidleisio yn y dyfodol.

Os oes gennych unrhyw faterion yr hoffech eu codi ynghylch hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio cysylltwch â ni ar 01766 771000. 

Os na fedrwch chi fynd i'r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad am ba bynnag reswm (gwaeledd, ar eich gwyliau ayyb), mae'n bosib bwrw pleidlais absennol. Mae 2 fath o bleidlais absennol:

Bydd angen i chi ddangos dogfen adnabod â llun mewn gorsafoedd pleidleisio ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ac etholiadau Senedd y Deyrnas Unedig (o fis Hydref 2023 ymlaen).