Casglu Gwastraff Gardd (bin brown)
Rhaid talu £36 y flwyddyn i gasglu gwastraff gardd (bin brown).
Gwneud cais casglu gwastraff gardd
Telerau ac amodau gwastraff gardd
(Rhaid creu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)
Pris
£36 y flwyddyn am
- 25 casgliad mewn blwyddyn
- gwagio 1 bin olwyn brown bob pythefnos
- dim casgliad dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd
Gall pob cartref archebu hyd at 4 casgliad bin brown.
- £30 y flwyddyn am bob bin brown ychwanegol.
Dyma'r pris am y flwyddyn yn rhedeg o Ionawr 2022 hyd at Rhagfyr 2022. Gallwch archebu’r gwasanaeth unrhyw dro yn ystod y flwyddyn, ond bydd y ffi blynyddol yn aros yr un fath.
Pryd mae fy ngwastraff gardd yn cael ei gasglu?
I weld dyddiad eich casgliad gwastraff gardd nesaf, rhowch eich cod post yn y blwch isod...
Sut fydd y gwasanaeth yn gweithio?
Wedi i chi dalu, byddwch yn derbyn y sticer drwy’r post o fewn 10 diwrnod gwaith. Rhaid ei osod o gwmpas eich bin olwyn brown. Fyddwch chi ddim yn cael bin newydd, dim ond sticer i'w osod arno. Os na fyddwch wedi derbyn y sticer drwy'r post cysylltwch â ni.
Angen bin brown olwyn brown newydd?
Cwestiynau Cyffredin
Trafferth gyda'ch gwasanaeth?
Bin brown ar goll/ wedi malu
Adrodd casgliad wedi ei fethu
Gwybodaeth Bellach
Am fwy o wybodaeth, neu i archebu a thalu dros y ffôn, ffoniwch 01766 771000.
Gallwch hefyd archebu a thalu yn unrhyw un o Siopau Gwynedd