Telerau ac amodau casgliad gwastraff gardd: Chwefror 2024

  1. Gwneir y cytundeb hwn rhwng y preswylydd ('y cwsmer') a Chyngor Gwynedd ('y Cyngor') o Stad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon, Gwynedd LL55 2BF ac mae’n nodi'r telerau a'r amodau i’r cwsmer ddefnyddio gwasanaeth casglu gwastraff gardd pob pythefnos y Cyngor ('y gwasanaeth’). Gall y Cyngor amrywio neu newid y telerau ac amodau hyn ar unrhyw adeg. Byddwch yn cael 10 diwrnod o rybudd ysgrifenedig o unrhyw newidiadau o'r fath.
  2. Yn unol â'r Rheoliadau Gwerthu o Bellter, mae gennych saith diwrnod gwaith ar ôl derbyn y Telerau ac Amodau i wneud cais am ganslo'r gwasanaeth hwn. Rhaid i geisiadau i ganslo'r gwasanaeth fod yn ysgrifenedig at Gyngor Gwynedd Gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu, Adran Amgylchedd, Stad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon, Gwynedd LL55 2BF neu e-bostio: ailgylchu@gwynedd.llyw.cymru. Ni ellir canslo dros y ffôn.
  3. Dim ond i gwsmeriaid sydd wedi tanysgrifio ar gyfer y gwasanaeth o flaen llaw y bydd casgliadau ar gyfer y gwasanaeth gwastraff gardd ar gael. Bydd y criw casglu yn seilio ei benderfyniad i wagio neu adael bin sydd wedi ei gyflwyno ar wybodaeth electroneg byw fydd ganddynt yn y cerbyd casglu, neu dystiolaeth weledol o sticer y flwyddyn 2024.  Cyfrifoldeb y cwsmer ydyw gosod y sticer ar y bin gwastraff, unai ar ei gaead neu ar gorff y bin, a’i fod yn hawdd ei weld.
  4. Bydd angen i gwsmeriaid adnewyddu eu tanysgrifiadau yn flynyddol. Dim ond cwsmeriaid sydd wedi talu eu tanysgrifiad ymlaen llaw fydd yn gymwys i dderbyn y gwasanaeth. Mae angen adnewyddu bob blwyddyn ar gyfer casgliad y flwyddyn honno. Cewch eich hysbysu o unrhyw gynnydd mewn prisiau o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn casgliad cyntaf y flwyddyn newydd.
  5. Mae'r tâl blynyddol sydd wedi cael ei osod gan y Cyngor yn £37 o am 22 casgliad o Chwefror i wythnos gyntaf Rhagfyr, ac ar gyfer un bin gwastraff gardd. Bydd prisiau tanysgrifio yn destun adolygiad yn ôl doethineb y Cyngor.
  6. Caniateir biniau gwastraff gardd ychwanegol. Bydd ffi o £31 yn cael ei godi am bob bin ychwanegol (caniateir hyd at 4 bin).
  7. Mae'r Cyngor yn gwagio biniau gwastraff gardd bob pythefnos, ac eithrio cyfnod dros fis Ionawr a rhan o fis Rhagfyr (felly 22 o gasgliadau'r flwyddyn) neu pan fydd ffactorau eraill yn effeithio ar y gwasanaeth, megis amodau tywydd eithafol. Os byddwn yn methu eich bin, byddwn yn gwneud ein gorau i gasglu cyn gynted ag y bo modd. Nid ydym yn rhoi ad-daliadau mewn unrhyw amgylchiadau ar gyfer methu casglu'r bin gwastraff gardd.
  8. Cyfrifoldeb y cwsmer ydi'r biniau gwastraff gardd, ac mae’n rhaid iddynt aros gyda'r eiddo os ydi y cwsmer yn symud cartref yn ystod y flwyddyn. Os byddwch yn symud o fewn Gwynedd, byddwch yn gallu trosglwyddo i ddefnyddio bin brown yn eich eiddo newydd. Cysylltwch â'r Cyngor i gadarnhau'r manylion. Os ydych yn symud allan o Wynedd ni fydd unrhyw ad-daliadau yn cael eu rhoi a gallwch roi gwybod i'r person sydd yn prynu/symud i mewn i'r eiddo bod y tâl wedi ei dalu ar gyfer y flwyddyn galendr. Bydd deiliad newydd y tŷ felly yn elwa ar ddarpariaeth y bin gwastraff gardd (os ydynt yn cofrestru ar y cynllun neu beidio) ar gyfer gweddill y flwyddyn ac ni fydd unrhyw ad-daliad i'r hen gwsmer sydd wedi symud o'r eiddo.
  9.  Nid oes unrhyw ad-daliadau, na rhan ad-daliadau os yw’r cwsmer yn penderfynu canslo’r gwasanaeth yn ystod y flwyddyn. Os, am unrhyw reswm bydd y Cyngor yn dewis diddymu’r gwasanaeth yng nghanol y flwyddyn bydd rhan ad-daliadau yn cael i’w rhannu ar sail gyfartaledd.  Os oes tystiolaeth o gamddefnyddio'r gwasanaeth neu'r bin gwastraff gardd gan y cwsmer, yna efallai y bydd y gwasanaeth yn cael ei ganslo. Ni fydd unrhyw ad-daliad yn yr amgylchiadau hynny.
  10. Dim ond at ddefnydd gwastraff gardd o’r eiddo mae’r bin a dylai’r gwastraff gael ei roi ynddo yn rhydd, gyda’r caead i lawr. Mae gwastraff gardd yn cynnwys toriadau gwair, toriadau gwrychoedd, tocion goed, brigau, rhisgl, dail, gwellt, gwair, blodau, planhigion, canghennau bach a ffrwythau sydd wedi disgyn. Nid yw’r canlynol yn dderbyniol - canghennau mawr, rhywogaethau ymledol neu wenwynig fel llysiau’r dial, llysiau'r gingroen a ffromlys chwarennog, tyweirch, pridd, cerrig , graean, pren sydd wedi'i drin neu ei beintio,  bwyd neu wastraff cegin gan gynnwys plicion, carthion anifeiliaid anwes, plastig, gweddillion sbwriel cath ac ati. Ni ddylid rhoddi unrhyw fath o blastig yn y bin gwastraff gardd. Bydd unrhyw eitemau o'r fath yn cael ei drin fel llygredd.
  11. Ni fydd biniau gwastraff gardd sydd wedi eu llygru (h.y. biniau sy’n cynnwys deunyddiau anghywir) yn cael eu gwagio. Os yw eich bin gwastraff gardd wedi'i lygru, eich cyfrifoldeb chi ydi cael gwared ar yr eitem(au) llygredig cyn y casgliad nesaf. Os bydd y llygredd yn parhau fe all y Cyngor gael gwared o’r bin gwastraff gardd ac atal eich gwasanaeth. Ni fydd unrhyw ad-daliadau ar gyfer achlysuron pan nad yw eich bin gwastraff gardd yn cael ei wagio oherwydd llygredd.
  12. Mae'n rhaid i'r bin gwastraff gardd gael ei gyflwyno ar ffin eich eiddo erbyn 6.00a.m ar y diwrnod casglu dynodedig. Os nad yw'r cwsmer yn gallu mynd â’u bin i’r man casglu oherwydd anabledd neu salwch mae'n rhaid iddynt wneud cais i'r Cyngor o flaen llaw am Wasanaeth Cymorth Casglu. Mae'n rhaid i gaead y bin fod ar gau yn llwyr ac ni fydd unrhyw wastraff ochr yn cael ei gasglu, h.y. unrhyw wastraff ychwanegol wrth ymyl y bin neu wedi ei osod ar y caead.
  13. Os yw eich bin gwastraff gardd yn cael ei ddifrodi, bydd y Cyngor yn trwsio neu gyfnewid cyn gynted ag y bo'n ymarferol i wneud. Fodd bynnag, os ydi y bin yn cael ei ddifrodi trwy esgeulustod neu gamddefnydd, gall y gost o atgyweirio neu ei newid fod arnoch chi. Os yw eich bin gwastraff gardd brown yn cael ei ddifrodi, cysylltwch gyda’r Cyngor ar 01766 771000.