Telerau ac Amodau Tocyn Teithio 16+

  1. Mae’r Tocyn Teithio 16+ ar gael i fyfyrwyr sy’n byw ac yn astudio yng Ngwynedd (gan gynnwys Coleg Menai Llangefni) ac sydd dros 16 oed ar 1 Medi. I weld y manylion llawn, cyfeiriwch at y Polisi Cludiant Ôl-16.
  2. Gall rhiant/gwarchodwr drefnu tocyn ar ran myfyriwr.
  3. Cyn archebu Tocyn Teithio 16+ gwnewch yn siŵr bod gwasanaeth ar gael i/o’r lleoliad, ac ar yr amser rydych eisiau teithio. Nid yw pob taith ar gael fel rhan o'r cynllun. Gweld amserlenni bws rhwydwaith cludiant 16+
  4. Rhaid dangos y tocyn bob tro y byddwch yn teithio. Bydd Swyddogion o’r Cyngor hefyd yn gwneud archwiliadau ar hap er mwyn sicrhau bod y tocyn teithio yn ddilys.
  5. Dim ond y myfyriwr sydd wedi ei enwi ar y tocyn all ddefnyddio’r tocyn. Ni ddylid addasu, copïo na cheisio ail-greu y tocyn mewn unrhyw ffordd, na gadael i rywun arall wneud hynny.
  6. Nid yw’r cynllun yn darparu cludiant i fyfyrwyr preswyl Coleg Llandrillo Glynllifon deithio yno ar ddechrau a diwedd yr wythnos. Y coleg sy’n gofalu am hyn.
  7. Os oes angen teithio o un safle i’r llall fel rhan o’ch cwrs ni fyddwch angen Tocyn Teithio ar gyfer y daith honno. Cyfrifoldeb y coleg yw darparu cludiant rhwng safleoedd yn ystod diwrnod addysgu.
  8. Rhaid i’r man codi fod yr un agosaf at gartref y myfyriwr. Dim ond un man codi ellir ei nodi ar y tocyn.
  9. Os yn teithio i Goleg Meirion Dwyfor, Pwllheli a bod cyfeiriad cartref y myfyriwr mewn mannau penodol i’r de o Borthmadog mae’n bosib y byddwch yn cael cynnig i dderbyn tocyn i deithio ar drên yn hytrach na bws. Bydd pob myfyriwr sy’n gymwys i dderbyn tocyn trên yn cael y cynnig wrth lenwi’r ffurflen gais. Mae’r Cyngor yn dal yr hawl i gwestiynu neu i wrthod unrhyw gynnig am docyn trên.
  10. Os yn teithio ar fws ysgol/coleg yn unig, rhaid cael Tocyn Teithio 16+.
  11. Wrth wneud cais am Docyn Teithio 16+ rydych yn cytuno i’r côd ymddygiad. Os nad yw’r myfyriwr yn dilyn y Côd Ymddygiad mae’n bosib y gallwch gael eich gwahardd rhag cael tocyn.
  12. Os ydych yn colli y Tocyn Teithio 16+ (tocyn plastig) bydd ffi o £10 am ail-argraffu ac ail-anfon y tocyn. Os ydych yn colli eich e-docyn gallwch lawrlwytho apGwynedd i ddyfais arall yn rhad ac am ddim.
  13. Rhaid rhoi gwybod am unrhyw newid i fanylion y myfyriwr. Nid oes ffi am newid manylion.
  14. Ar ôl lawrlwytho e-docyn bydd ar gael yn syth ar apGwynedd. Mae’r ap ar gael am ddim drwy Apple Store neu Google Play.
  15. Os yn defnyddio e-docyn mae dilysrwydd y tocyn yn cael ei gadarnhau yn ddyddiol. Os na fydd apGwynedd wedi cael unrhyw gysylltiad efo’r rhyngrwyd am 7 diwrnod yn olynol bydd neges ar eich e-docyn i’ch atgoffa bod angen cysylltu gyda’r rhyngrwyd. Os na fydd cysylltiad efo’r rhyngrwyd ar ôl 14 diwrnod bydd yr e-docyn yn cael ei ganslo nes y byddwch wedi cysylltu efo’r rhyngrwyd eto.
  16. Os yw’r tocyn yn cael ei ganslo am unrhyw reswm ni fydd yr e-docyn yn weithredol. Bydd angen anfon y tocyn plastig yn nôl i: Galw Gwynedd, Cyngor Gwynedd, Uned 2, Parc Busnes Eryri, Penrhyndeudraeth, Gwynedd, LL48 6LD.
  17. LLUN. Rhaid arddangos llun pen ac ysgwydd (math pasbort) o’r myfyriwr ar docyn bws. Ni fydd y cais yn cael ei brosesu nes byddwn wedi derbyn y llun.
    - Rhaid i’r llun fod yn un cyfredol
    - Nid ydym yn caniatáu i’r llun fod wedi ei addasu
    - Rhaid i’r llun fod yn glir ac mewn ffocws
    - Rhaid edrych yn syth ar y camera gyda’ch llygaid ar agor
    - Gwnewch yn siŵr nad oes dim byd yn cuddio eich wyneb/pen (oni bai am resymau crefyddol)
    - Gwnewch yn siŵr nad oes cysgod ar eich wyneb nac y tu ôl i chi
    - Ni ddylai’r llun gynnwys unrhyw berson na gwrthrych arall.

18. Mae’r manylion llawn a’r telerau llawn i’w gweld yn Polisi Cludiant Ôl-16 Cyngor Gwynedd.