Tocyn Teithio 16+
Dros 16 oed ac yn byw ac yn astudio yng Ngwynedd? Edrycha ar yr amserlenni i weld os bydd y Tocyn Teithio 16+ o fudd i chdi:
Amserlenni Bws Tocyn Teithio 16+
(Rhaid creu cyfrif os nad oes gen ti un yn barod)
Gweld telerau ac amodau
Os nad ydi hi'n bosib i chdi archebu ar-lein, ffonia: 01766 771000.
Pris
Mae'r Tocyn Teithio 16+ ar gael am ddim.
Cwestiynau cyffredin
Mae’r
Amserlenni Bws Tocyn Teithio 16+ yn nodi pa wasanaethau sydd ar gael fel rhan o’r tocyn. Cofia nad ydi’r tocyn yn rhoi hawl i chdi deithio ar bob cludiant cyhoeddus yng Ngwynedd. Dy gyfrifoldeb di yw gwneud yn siŵr bod gwasanaeth ar gael i/o’r lleoliad, ac ar yr amser rwyt ti eisiau teithio.
Unwaith ti wedi archebu e-docyn bydd ar gael yn syth ar apGwynedd. Mae apGwynedd ar gael i’w lawrlwytho am ddim o Google Play neu Apple Store. Bydd angen dangos yr e-docyn ar dy ffôn bob tro ti'n teithio.
Unwaith rwyt ti wedi archebu yr e-docyn ar-lein bydd ar gael i'w ddefnyddio yn syth ar apGwynedd.
Os ydi apGwynedd gen ti ar dy ffôn yn barod, mae'n bosib y bydd angen i chdi allgofnodi, ac yna mewngofnodi eto i'r ap er mwyn i'r tocyn ymddangos.
Byddwn yn gyrru e-bost efo linc i lawrlwytho apGwynedd atat ar ôl i chdi archebu e-docyn. Os nad wyt ti'n cael yr e-bost, edrycha yn y ffolder spam rhag ofn. Os wyt ti'n dal i gael trafferth, gyrra e-bost i fynghyfrif@gwynedd.llyw.cymru
Os yn teithio ar fws ysgol/coleg yn unig, rhaid cael Tocyn Teithio 16+ er mwyn teithio arno. Tydi hi ddim yn bosib talu am deithiau unigol.
Os yn teithio ar wasanaeth bws arferol/cyhoeddus, bydd yn bosib talu am deithiau unigol.
Nid oes angen tocyn ar gyfer teithio o un safle coleg i’r llall fel rhan o’r cwrs. Cyfrifoldeb y coleg/ysgol yw darparu cludiant rhwng safleoedd yn ystod y diwrnod addysgu.
Os wyt ti'n 15 oed ac yn mynd i flwyddyn 12 neu ar gwrs addysg bellach does dim angen archebu tocyn.
Os wyt ti'n teithio i Goleg Meirion Dwyfor Pwllheli a bod dy gyfeiriad cartref mewn mannau penodol i’r de o Borthmadog, mae’n bosib y byddi di'n cael cynnig i deithio ar drên yn hytrach na bws. Bydd pob myfyriwr sydd yn gymwys i dderbyn tocyn trên yn cael y cynnig wrth lenwi’r ffurflen gais.
Nid yw’n bosib cael e-docyn ar gyfer teithio ar y trên ar hyn o bryd, dim ond tocyn drwy’r post. Gall y tocyn gymryd hyd at 10 diwrnod i’ch cyrraedd felly cofiwch ei archebu mewn da bryd.
Y cyfan sydd angen ei wneud ydi lawrlwytho apGwynedd i ffôn/dyfais arall a bydd dy docyn ar gael yn syth.
Rho wybod i ni am unrhyw newid i dy fanylion. Dos i dy gyfrif ar-lein a mynd i Fy Ngheisiadau. Agora'r cais ac anfon unrhyw ddiweddariad ymlaen i ni..
Am ragor o wybodaeth, cysyllta â ni:
Cysylltu ar-lein: Ymholiad Tocyn Teithio 16+